Adroddiad gan James Shepherd, Shepherd’s Biscuits Ltd a Julia Skinner, Canolfan Technoleg Bwyd
Prosiect Cronfa Her Adfer Covid ar y cyd â Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r Prosiect
Mae’r diwydiant bisgedi wedi’i seilio ar ryseitiau sy’n cynnwys lefelau uchel o siwgr, carbohydradau a chalorïau. Nod y prosiect hwn oedd archwilio a datblygu dulliau newydd o gynhyrchu bisgedi siwgr isel a charbohydrad isel sy’n blasu cystal â’r bisgedi traddodiadol cyfwerth sy’n uchel mewn siwgr a charbohydrad.
Y nod yw nid yn unig creu bisgedi carbohydrad isel o ansawdd uchel ond hefyd rhannu’r cynhwysion a’r wybodaeth y gall diwydiant becws ehangach Cymru eu defnyddio.
Crynodeb
Mae treth siwgr wedi’i chyflwyno ar gyfer diodydd meddal a gallai treth siwgr fod ar ddigwydd ar gyfer bisgedi, teisenni a melysion.
Mae llai o wybodaeth ynghylch pa bryd, neu ar ba ffurf a ddaw – ond mae rhai yn y diwydiant yn rhagweld efallai y bydd y Llywodraeth yn dechrau rhoi cosbau ariannol i weithgynhyrchwyr sy’n creu bwydydd uchel mewn siwgr. Ac mae’n anodd dadlau yn erbyn yr angen i reoleiddio, o ystyried y dirywiad cyffredinol yn iechyd y genedl a’r cysylltiadau annatod rhwng tlodi, diet gwael, gordewdra a salwch cronig, fel diabetes Math 2. Mae problemau yn dod i’r amlwg ar draul y GIG a’r genedl gyfan.
Y cymysgedd rhwng cynllunio busnes ac awydd gwirioneddol i wella nodweddion maethol ei gynhyrchion a achosodd i gyfarwyddwyr Shepherd’s Biscuits Ltd ddechrau chwilio am atebion. Yr hyn yr oeddent eisiau ei gyflawni oedd bisged sy’n cynnwys llai o siwgr a charbohydradau heb effeithio ar flas, gwead nac ansawdd, a heb droi at felyswr artiffisial, cryf.
I ddechrau, y targed oedd 20% yn llai o siwgr a 30% yn llai o garbohydradau. Ond daeth yn amlwg yn fuan iawn bod cael gwared ar garbohydradau o fisged a’i ddisodli â chynhwysion sy’n uchel mewn ffibr yn trawsnewid y cynnyrch hwnnw yn rhywbeth nad yw’n ymdebygu i fisged bellach. Mae disodli gyda phrotein yn bosibl, ond nid dyna yw nod y prosiect hwn. Mae bisgedi masnachol ar gael sydd wedi disodli blawd gwenith uchel mewn carbohydrad â blawd almon neu gnau coco, ond mae’r rhain yn uchel iawn mewn braster. Felly, dechreuom ganolbwyntio’n bennaf ar gyflawni gostyngiad o 20% yn y siwgr.
Cafodd amrywiol ddatrysiadau eu rhoi dan brawf drwy gydol y prosiect. Un o’r datrysiadau symlaf yw adolygu dognau’r cynhwysion sydd eisoes yn bresennol i leihau lefel y siwgr, sydd, pan wneir hynny fesul dipyn, yn gallu cyflawni derbyniad cyhoeddus wrth i flasbwyntiau addasu i ganfyddiad is o felyster. Opsiwn arall yw defnyddio cynhwysion polyol, fel maltitol, yn lle siwgr, ond mae hynny’n golygu bod angen ei ddisodli’n gyfan gwbl oni bai y gellir lleihau’r egni o 30% hefyd, ac wedyn mae’r lefelau polyol uchel yn mynnu rhybudd o effaith ar goluddion.
Canlyniad mwyaf ffafriol y prosiect oedd datblygu cyfuniad o bum cynhwysyn sydd wedi, hyd yn hyn, lleihau siwgr o hyd at 30% heb gael effaith amlwg ar ymddangosiad, arogl, blas na theimlad y fisged yn y geg. Disodlwyd rhan o’r siwgr gyda chyfuniad manwl gywir o inwlin (o ddant y llew yn bennaf), ffrwctos, maltodecstrin a chyflas naturiol. Gellir defnyddio cynhyrchion ffibr hydawdd, megis y rheini sy’n deillio o gorn neu fetys melys, hefyd.
Yn ôl dadansoddiad synhwyrol a samplu, yn y bisgedi a wnaethpwyd gyda’r cymysgedd newydd o siwgrau, nid oes gwahaniaeth amlwg i’r rysáit gwreiddiol. Rydym hefyd wedi llwyddo i ddefnyddio’r cymysgedd mewn cyd-destunau eraill, gan gynnwys teisenni sbwng, gyda chanlyniadau derbyniol.
Mae Shepherd’s Biscuits yn bwriadu cyflwyno’r rysáit newydd i’w cynhyrchion. Bydd y cynhwysion a’r tablau maethol wedi’u diweddaru, ond ni fydd unrhyw honiadau neu sylw am y ffaith bod y siwgr wedi’i leihau. Mae hyn oherwydd bod bwydydd is mewn siwgr yn dueddol o gael eu canfod yn fwydydd o ansawdd is a blas gwaelach. Bydd Shepherd’s Biscuits yn parhau i wneud bisgedi o ansawdd ragorol sydd â chanfyddiad cyfartal ond sy’n digwydd bod yn cynnwys llai o siwgr.
Wrth roi’r rysáit newydd dan brawf, roedd y cynhwysion ychwanegol yn ychwanegu amcangyfrif o 5% i gost y cynnyrch, sy’n gymharol â’r economi ar raddfa, ond mae’n destun pryder gan fod y cynhwysion yn lle siwgr a charbohydrad yn ddrytach ar y cyfan. Gall argaeledd rhai cynhwysion fod yn broblem, yn enwedig i fecwsys llai sy’n wynebu rheolau isafswm nifer uchel wrth archebu.
Dylid annog gweithgynhyrchwyr cynhwysion mawr i gynyddu eu hystod o gymysgeddau siwgr is, i gynnwys cymysgeddau disodli siwgr yn unig, yn ogystal â chymysgeddau penodol. Bydd hyn yn helpu i leihau’r gost a’i gwneud hi’n haws i fecwsys, gan ganiatáu i gyfran dda o’r siwgr gael ei thynnu o deisenni a bisgedi a werthir yng Nghymru a rhoi mwy o ddewis i brynwyr. Gallai effaith hirdymor hyn ar iechyd y boblogaeth, a’r gostyngiad mewn costau i’r GIG, fod yn sylweddol. Gall hefyd helpu diwydiant becws Cymru fod un cam ar flaen unrhyw dreth ar siwgr yn y dyfodol.
Er bod y prosiect wedi cyflawni ymgyrch un tro mewn perthynas ag ymchwil a datblygu a chysylltiadau cyhoeddus i ledaenu’r wybodaeth a’r buddion sydd wedi’u canfod, yr hyn sydd ei angen yw parhau i rannu’n araf bach ac atgoffa busnesau a rhanddeiliaid perthnasol ynghylch yr angen i leihau siwgr mewn cynnyrch pob. Yr hyn sy’n amlwg o’r prosiect hwn yw bod datrysiadau yn bodoli i leihau’r swm o siwgr yn ein hoff felysion – ond mae’n bwysig nawr bod llwyddiant gweithredu’r datrysiadau hyn yn cael ei annog ar draws y diwydiant gweithgynhyrchu, wedi’i gefnogi gan y byd academaidd a’r Llywodraeth.
Anghenraid y Prosiect
Mae’n hysbys bod gordewdra yn niweidiol i’n hiechyd. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â strategaeth ‘Pwysau Iach, Cymru Iach’ gan Lywodraeth Cymru, cynllun hirdymor i atal a lleihau gordewdra yng Nghymru (ffynhonnell: https://www.llyw.cymru/strategaeth-pwysau-iach-pwysau-iach-cymru-iach). Bu i’r pandemig coronafeirws gynyddu eto ymwybyddiaeth y cyhoedd o ordewdra a diabetes gan yr ymddengys bod y rheini sy’n dioddef o’r cyflyrau hyn yn fwy bregus i gymhlethdodau iechyd sylweddol wrth gael eu heintio â Covid-19 (ffynhonnell: https://bmcpublichealth.biomedcentral.com/articles/10.1186/s12889-021-11546-6).
Yn ôl Llywodraeth y DU, gorfwyta calorïau yw un o’r prif ffactorau sy’n cyfrannu at ddod yn ordew. Dengys ffigyrau bod oedolion yn bwyta 200 i 300 o galorïau ychwanegol mewn diwrnod, dros y canllawiau dyddiol argymelledig, a phlant sydd eisoes yn ordew yn bwyta hyd at 500 o galorïau yn fwy nag sydd ei angen arnynt mewn diwrnod. (ffynhonnell: https://www.gov.uk/government/news/new-obesity-strategy-unveiled-as-country-urged-to-lose-weight-to-beat-coronavirus-covid-19-and-protect-the-nhs#:~:text=Living%20with%20excess%20weight%20puts,of%20the%20general%20population).
Yn anffodus, mae gan gynhyrchion sy’n cael eu marchnata yn gynhyrchion siwgr isel neu’n addas i bobl ddiabetig enw drwg o ran blas mewn cymhariaeth â’r cynhyrchion “siwgr llawn”, carbohydrad uchel – yn aml nid ydynt dim gwell i iechyd y prynwr ychwaith (ffynhonnell: https://www.nice.org.uk/guidance/ng28/ifp/chapter/diet-and-lifestyle).
Yr her yw lleihau’r nifer o galorïau mae pobl yn eu bwyta, a’r datrysiad yw gwneud byrbrydau iachach sy’n blasu cystal â’r opsiynau aniach. Felly, nod y prosiect hwn yw nid yn unig creu ystod o fisgedi carbohydrad isel, ond hefyd creu a rhannu’r cynhwysion a’r wybodaeth y gall diwydiant becws ehangach Cymru eu defnyddio i greu cynhyrchion o ansawdd, sydd hefyd yn digwydd bod yn isel o ran carbohydrad a heb fod o reidrwydd wedi’u marchnata felly.
Drwy ddatblygu cynhwysion, dulliau a ryseitiau ar gyfer bisgedi ansawdd uchel, siwgr isel a charbohydrad isel, byddwn yn cyfrannu at wella iechyd y genedl, ac, o ganlyniad i hynny, yn lleihau’r pwysau ar y GIG drwy salwch oherwydd ffordd o fyw.
Ar hyn o bryd, mae cynhwysion carbohydrad isel wedi’u rhannu’n ddau gategori arbennig: nwyddau siwgr isel sy’n addas ar gyfer pobl ddiabetig – yn aml yn llawn melysyddion artiffisial y mae blas gwael iddynt; neu fariau protein uchel sy’n cael eu marchnata yn y farchnad iechyd a ffitrwydd. Mae bwlch amlwg yn y farchnad am nwyddau pob iachach i’w bwyta bob dydd.
Ymhellach i hynny, mae’n debyg y bydd deddfwriaeth bellach yn y dyfodol agos yn erbyn bwydydd siwgr uchel, carbohydrad uchel, drwy ehangu Treth Siwgr y DU. Felly, bydd gweithredu ymlaen llaw i ddatblygu nwyddau pob carbohydrad isel yn rhoi mantais arbennig yn y farchnad.
Y Camau Nesaf
Awgryma tîm y prosiect y rhain fel camau nesaf, wedi’u hwyluso a’u harwain gan Lywodraeth Cymru pryd bynnag sy’n bosibl, er mwyn cyflwyno ryseitiau llai o siwgr ledled Cymru:
1. Gwella mynediad at ddatrysiadau fforddiadwy ar gyfer disodli siwgr – annog cwmnïau cynhwysion i gynhyrchu cymysgeddau disodli siwgr i fodloni’r galw a ddisgwylir, gan ganiatáu i fecwsys llai ddefnyddio cymysgedd cyn hawsed â bagiau siwgr presennol. Mae’n debyg mai dyma’r allwedd i ddatgloi potensial y prosiect hwn. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o fecwsys yn archebu sachau o siwgr ac yn defnyddio’r cyfaint angenrheidiol yn y rysáit. Mae un o’r cymysgeddau disodli siwgr awgrymedig yn gofyn prynu pedwar cynhwysyn arall ac yna eu pwyso’n ofalus. Os allai gweithgynhyrchwr cynhwysion gynhyrchu sachau o “gymysgedd â 20% yn llai o siwgr” er enghraifft – byddai’n cael gwared ar y rhwystr cymhleth hwnnw i fecwsys. Yn ogystal, byddai màs gynhyrchu’r cymysgedd yn debygol o leihau’r gost. Ymhellach i hynny, gellid creu bagiau manwerthu llai, yn pwyso 2kg, o’r cymysgeddau i’w gwerthu mewn siopau ar gyfer pobi gartref.
2. Parhau i ddatblygu a rhannu gwybodaeth – yn unol â Maes Blaenoriaeth 1 menter Pwysau Iach, Cymru Iach 2022-2024, ei nod yw llywio’r amgylchedd bwyd a diod tuag at opsiynau cynaliadwy ac iachach, mae angen parhau i rannu’n araf bach ac atgoffa busnesau a rhanddeiliaid perthnasol ynghylch y potensial i leihau siwgr mewn cynnyrch pob, er mwyn lledaenu’r wybodaeth a buddion yr hyn sydd wedi’i ddatgelu. Gellir defnyddio hwb Arloesi Bwyd Cymru yn rhad ac am ddim i rannu cyngor ar arfer orau a gwybodaeth i gwmnïau yng Nghymru, a fyddai’n arbennig o berthnasol petai’r cynllun treth ar siwgr yn ymestyn. Yr hyn sy’n amlwg o’r prosiect hwn yw bod datrysiadau yn bodoli i leihau’r swm o siwgr yn ein hoff felysion – ond mae’n bwysig nawr bod llwyddiant gweithredu’r datrysiadau hyn yn cael ei annog o’r lefel uchaf.
3. Treialon ail-ffurfio ryseitiau ar gyfer cynhyrchion becws arbennig i gleientiaid – Mae Prosiect HELIX yn fenter wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithgynhyrchwyr drwy’r tair canolfan fwyd hyn: Canolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni, Canolfan Bwyd Cymru yng Ngheredigion, a Chanolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five yng Nghaerdydd. Gellir defnyddio’r wybodaeth a ddatblygwyd drwy’r prosiect hwn gyda chyngor technegol arbenigol ynghyd â chyfleusterau datblygu cynhyrchion o ansawdd ym mhob canolfan, i ddatblygu ryseitiau siwgr is wedi’u hail-ffurfio sy’n addas ar gyfer ystod eang o gynhyrchion becws. Gellir dilysu cynhyrchion newydd drwy ddadansoddiad synhwyrol a threialon gan brynwyr. Gellir defnyddio dadansoddiad o gynnyrch i gefnogi unrhyw honiad posibl ynghylch maeth.
For further information or to request a copy of the trials report, email James Shepherd: james@thebiscuitproject.com