YMCHWIL BISGEDI SIWGR IS YN ARWAIN AT LWYDDIANT

Bydd ymchwil arloesol o Gymru i helpu pobl fyw bywyd iachach drwy ostwng lefelau siwgr mewn bisgedi yn cael ei rannu’n rhad ac am ddim ymysg busnesau pobi ledled Cymru.

Bu’r cwmni o Lanrwst, Shepherd’s Biscuits Ltd, wrth wraidd prosiect a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i weld a oes modd gostwng y lefelau siwgr mewn ryseitiau bisgedi heb effeithio ar flas, gwead neu ymddangosiad y cynnyrch.James Shepherd, Shepherd's Biscuits Ltd

Wedi’u cymell gan yr angen i wella iechyd defnyddwyr a’r posibilrwydd o gyflwyno treth siwgr i gynhyrchwyr bwyd, dechreuodd cyfarwyddwyr y busnes pobi, James Shepherd a James Wasdell, ar brosiect a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru i ddod â lefelau siwgr mewn bisgedi i lawr 20 i 30 y cant. 

Wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru, dechreuodd Shepherd’s Biscuits ar ymchwil i ‘Ddatblygu datrysiadau siwgr is a charbohydrad is ar gyfer y diwydiant bisgedi gyda phosibiliadau ar gyfer y sector pobi ehangach yng Nghymru’.

Dywedodd James Shepherd, “Gwelsom effeithiau’r dreth siwgr ar ddiodydd a dyfodiad diodydd diet a sero siwgr, lle mae nifer ohonynt yn cynnwys melysyddion cryf. Mae llawer o siarad wedi bod ynghylch y dreth siwgr ar fwyd hefyd, a chredaf y bydd hyn yn digwydd. Felly, pan glywais sôn am Gronfa Adfer Covid Llywodraeth Cymru, fe wnes i gais i ddatblygu bisged siwgr is.”

Bu James yn cydweithio’n agos ag arbenigwyr yng Nghanolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai yn Llangefni i ystyried a oedd modd cyflawni targedau blaenorol Llywodraeth y DU i leihau siwgr a charbohydrad heb amharu ar y rysáit bisged.

Dywedodd, “Nod y prosiect oedd archwilio a datblygu dulliau newydd o gynhyrchu bisgedi siwgr is, carbohydrad is sy’n blasu cystal â’u bisgedi traddodiadol cyfatebol sy’n uchel mewn siwgr a charbohydrad.”

Yn fuan yn y prosiect, canfuwyd bod gostwng lefelau carbohydrad yn gallu effeithio ar ansawdd rhai mathau o fisgedi, felly rhoddwyd mwy o bwyslais ar fodloni’r targed o ddod â lefelau siwgr i lawr 20 y cant o leiaf.

Mae dadansoddiad a threialon ryseitiau a chynhyrchu cynhwysfawr wedi’u cynnal er mwyn cyflawni’r canlyniadau dymunol o ran lleihau siwgr, a blas a gwead y cynnyrch.

Arweiniodd hyn at ddatblygu cyfuniad o bum cynhwysyn sy’n disodli siwgr sef, siwgr, ffibr hydawdd, maltodecstrin, ffrwctos a melysydd naturiol.

Bu Julia Skinner o Ganolfan Technoleg Bwyd Grŵp Llandrillo Menai ynghlwm â’r ymchwil cefndirol a’r treialon cegin i ddatblygu ryseitiau bisged oedd yn cynnwys llai o siwgr a charbohydrad.

Dywedodd, “Roedd fy ymchwil yn edrych ar bolisïau a mentrau’r Llywodraeth i wella iechyd y genedl, megis yr her flaenorol i’r diwydiant i gyflawni 20 y cant yn llai o siwgr yn yr amrywiaeth o gynnyrch sy’n cyfrannu fwyaf at y siwgr a fwyteir gan blant. Yna, adolygais fisgedi mwy iach ar y farchnad er mwyn cael gwell dealltwriaeth am y cynhwysion sydd fel arfer yn cael eu defnyddio i gyflawni’r fath fuddion.”

Arweiniodd y gwaith hwn at ymchwilio’r holl gynhwysion â’r posibilrwydd o gymryd lle blawd gwenith yn rhannol neu’n gyfan gwbl a lleihau’r lefel carbohydrad neu ddisodli siwgr. Mae rhai o’r cyflenwyr cynhwysion mwyaf hefyd yn cynnig eu datrysiadau eu hunain i’r problemau hyn gyda chynhwysion arbenigol penodol.

Yna aeth Julia ati i gynnal treialon cegin, gan sganio ystod o’r cynhwysion mwyaf addawol mewn rysáit bisged. Defnyddiwyd meddalwedd faeth i fesur pob gwelliant a gyflawnwyd, ac yna daethpwyd â phanel blasu synhwyraidd i mewn er mwyn rhoi adborth ar y ryseitiau mwyaf addawol.

Dywedodd Julia, “Roedd yn syndod faint o siwgr roedd modd cael gwared ohono drwy ond addasu cyfrannau’r cynhwysion yn y rysáit, sef y dull symlaf.

“Gweithiodd amrywiaeth o gynhwysion ffibr hydawdd a maltodecstrin yn dda iawn fel amnewidynnau siwgr rhannol gan barhau yn yr un modd i gynnig priodweddau swmp y siwgr a ddisodlwyd. Yna, lle’r oedd angen hwb i’r melyster, roedd modd cyflwyno hynny drwy ychwanegu’r sylweddau gwella blas naturiol. Fel arall, mae cynhwysion polyol fel maltitol yn effeithiol fel amnewidynnau siwgr llwyr, er bod cyfyngiadau i faint ohonynt y gellir eu bwyta.

“Rydym bellach yn gwneud ein gorau i ddwyn perswâd ar y diwydiant pobi ehangach yng Nghymru i ystyried lleihau’r siwgr yn eu cynnyrch fel bod modd i ni gyflawni effaith wirioneddol ar ein dietau dyddiol.” 

Mae Arloesi Bwyd Cymru – y corff ymbarél sy’n cynnwys tair canolfan fwyd Cymru – yn gweithio gyda’r cwmnïau bwyd a diod i’w help i dyfu, arloesi, cystadlu a chyrraedd marchnadoedd newydd.

Dywedodd Ann Marie Flinn, Rheolwr Technegol Bwyd Amaeth, ”Mae’r tîm yn y Ganolfan Technoleg Bwyd yn falch o gael ei wahodd i gynorthwyo Shepherd’s Biscuits.  Roedd y prosiect, a gefnogwyd gan Gronfa Her Adfer Covid Llywodraeth Cymru, wedi’n galluogi ni i edrych ar y diwydiant pobi yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar fisgedi.

“Bu’r gwaith hwn yn cyd-fynd â strategaeth gyffredinol ‘Pwysau Iach : Cymru Iach’ Llywodraeth Cymru sy’n ymdrechu i wella iechyd a llesiant y genedl fesul cam. Y nod tymor hir oedd rhannu gwybodaeth am sut i leihau’r siwgr cudd a gostwng y lefelau carbohydrad yn ein danteithion amser te.”

Yn aelod o Glwstwr Bwyd Da Bwyd a Diod Cymru, mae Sheperd’s Biscuits hefyd yn gweithio â thîm Menter a Busnes, fu’n rhannu’r wybodaeth a gasglwyd o’r prosiect ymysg y sector pobi yng Nghymru. Mae’r canfyddiadau o’r prosiect hefyd ar gael ar www.thebiscuitproject.com

Yn ôl James Wasdell, “Nod y prosiect hwn oedd, nid yn unig creu bisged siwgr is, o ansawdd uchel – a charbohydrad is yn wreiddiol – ond hefyd i rannu cynhwysion a gwybodaeth y gall diwydiant pobi ehangach Cymru eu cymhwyso.”

Yn ogystal, mae gan y gwaith y potensial i gael ei gymhwyso i gynnyrch pob eraill, yn cynnwys cacennau, ac mae James yn dymuno i ganfyddiadau’r prosiect gael eu hystyried gan y sector pobi.

Dywedodd James, “Rydym wedi cyfrifo bod cyfnewid siwgr am y cyfuniad melysu newydd yn ychwanegu oddeutu pump y cant at y costau cynhyrchu. Felly, mae angen gweithgynhyrchwr cynhwysion masnachol arnom hefyd i gymryd hyn ymlaen a chreu cyfuniadau y gall busnesau pobi eu prynu a lleihau’r lefelau siwgr yn eu nwyddau.”

Yn wreiddiol yn cael ei adnabod dan yr enw Aberffraw Biscuit Company, mae Shepherd’s Biscuits Ltd yn adnabyddus am adfywio a chynhyrchu bisged hynaf Prydain – y fisged Aberffraw siâp cragen fylchog unigryw, sy’n dyddio’n ôl 800 mlynedd.

Yn gyn-newyddiadurwr, sefydlodd James Shepherd y busnes ddeng mlynedd yn ôl ar ôl cael ei ysbrydoli gan bennod o The Great British Bake Off lle cafodd y cystadleuwyr y dasg o gynhyrchu cynnyrch pob hanesyddol.

Meddai James, “Roeddwn wrthi’n gwylio The Great British Bake Off, ac roeddent yn gwneud bisgedi Aberffraw, ac yn ôl bob sôn y rhain oedd y bisgedi hynaf ym Mhrydain ac roeddent yn deillio o Ogledd Cymru. Doeddwn i ddim wedi clywed amdanyn nhw, felly penderfynais fynd ati i wneud ambell un.”

Ar ôl sawl mis o weithio ar berffeithio siâp cragen fylchog y fisged, aeth James â nhw i Ŵyl Fwyd Llangollen, lle arweiniodd y cyhoeddusrwydd a ddaeth yn sgil hyn at ei fisgedi’n cael eu profi’n fyw ar y teledu gan neb llai na Paul Hollywood.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi ymestyn i fathau eraill o fisgedi, sy’n cael eu cynhyrchu yn ei uned gynhyrchu SALSA achrededig gan yr wyth aelod staff llawn amser a’r ddau aelod staff rhan amser.

Mae Shepherd’s Biscuits yn cael eu gwerthu i amrywiaeth o gwsmeriaid manwerthu – siopau annibynnol, darparwyr gwasanaethau bwyd – a’r sector lletygarwch, gan gynnwys ystod o westai blaengar yn y DU.

Er na fydd rysáit y fisged Aberffraw yn newid, mae James yn bwriadu cynhyrchu’r bisgedi eraill sydd gan y cwmni yn defnyddio’r wybodaeth newydd a gasglwyd o’r prosiect hwn.

Leave a Comment

Your email address will not be published. Required fields are marked *